Galés
por Huw Aled Lewis
CREDO
Credaf yn y Bywyd sy’n Fam hollalluog
creawdwraig y nefoedd a’r Ddaear.
Credaf mewn Dyn, ei Fab datblygedig
A genhedlwyd mewn esblygiad tanllyd,
Sy’n cynyddu er gwaethaf pob Peilat
a dyfeiswyr dogmâu gormesol
sy’n gorthrymu Bywyd a’i gladdu.
Ond y mae Bywyd bob amser yn atgyfodi
Ac y mae Dyn yn cadw i fynd tuag at yfory.
Credaf yng ngorwelion yr ysbryd
sef egni cosmig y byd.
Credaf yn y Ddynoliaeth sydd wastad yn esgyn.
Credaf yn y Bywyd tragwyddol. Amen.